UK FUELS AC UAC
UK FUELS AC UAC
Mae UK Fuels yn falch o weithio mewn partneriaeth ag Undeb Amaethwyr Cymru, yr unig undeb amaethyddol sy’n cynrychioli ffermwyr Cymru yn unig. Mae cardiau tanwydd ar gyfer UK Fuels, Shell, Esso, BP, a Texaco bellach ar gael gan UK Fuels ar gyfer holl aelodau UAC, gyda gostyngiad gwarantedig i’ch helpu i reoli eich gwariant ar danwydd yn well.
Mae manteision defnyddio ein cardiau tanwydd yn cynnwys:
*Codir pris y pwmp ar diesel a brynir mewn gorsafoedd tanwydd archfarchnad.
**Codir pris y pwmp am ddi-blwm a brynir mewn gorsafoedd tanwydd archfarchnad ac Esso.
Cliciwch yma i wneud cais am gerdyn a dechrau prynu tanwydd y ffordd gallach
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r broses ymgeisio, anfonwch e-bost at partnerships@ukfuels.co.uk
Pam defnyddio UK Fuels?
Fel arweinydd yn y farchnad cerdyn tanwydd am fwy na 32 mlynedd, mae gennym y wybodaeth i’ch helpu i gael y pris mwyaf cystadleuol am eich tanwydd.
Dewis a chyfleustra
Gydag un o’r rhwydweithiau gorsafoedd tanwydd annibynnol mwyaf yn y DU, gellir defnyddio ein cardiau tanwydd mewn dros 3,600 o orsafoedd tanwydd ledled y wlad, gan roi dewis eang i chi o ble i lenwi.
Arbed amser ac arian
Gyda’n holl gardiau tanwydd, byddwch yn cael mynediad am ddim i’n platfform rheoli ar-lein, Velocity. Gallwch chi reoli eich cardiau tanwydd yn hawdd gydag adroddiadau ar unwaith ac anfonebau sy’n cydymffurfio â CThEM, i gyd naill ai o’ch porwr neu ein ap ffôn clyfar Velocity cyfleus.
Dros 3,700 o orsafoedd tanwydd wedi’u lleoli’n gyfleus ledled y DU
Gostyngiad gwarantedig o 4c y litr oddi ar bris pwmp diesel safonol
Mynediad ardderchog i HGV, Truckstop a Thraffordd
Telerau credyd hyblyg i weddu’ch anghenion